1 Kings 19

Elias yn dianc am ei fywyd

1Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd. 2Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”

3Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd i Beersheba yn Jwda. Dyma fe'n gadael ei was yno, 4a cerdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! Arglwydd, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.” 5Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.” 6Edrychodd o'i gwmpas, ac roedd yna fara fflat wedi ei bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto. 7Dyma angel yr Arglwydd yn dod eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.” 8Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai,
19:8 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai
mynydd yr Arglwydd.

Duw yn siarad gydag Elias wrth fynydd Sinai

9Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r Arglwydd yn siarad gydag e,

“Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”

10A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r Arglwydd, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

11Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr Arglwydd a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr Arglwydd ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr Arglwydd ddim yn y daeargryn. 12Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr Arglwydd ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr.
19:12 distawrwydd llwyr neu awel ysgafn neu llais tawel yn sibrwd.
13Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo,

“Be wyt ti'n wneud yma Elias?”

14A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r Arglwydd, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

15Dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Dos i eneinio Hasael yn frenin ar Syria. 16Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd. 17Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw. 18A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”

Galwad Eliseus

19Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio. 20A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti!”

21Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ychen oedd ganddo, a defnyddio'r gêr a'r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta.

Yna dyma fe'n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.

Copyright information for CYM